Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw eu bod am fuddsoddi £20m y flwyddyn yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol Cymru.

Daw’r arian newydd o gyllid a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth Prydain ym mis Mawrth eleni.

“Bydd y cyllid yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar fywydau pobol, gan hefyd leihau costau i lywodraeth leol yn y tymor hwy,” meddai Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans, wrth gyhoeddi’r arian.

 ‘Gwella cymorth i ofalwyr…’

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw’n rhannu’r arian fel a ganlyn:

  • £9m i gynyddu’r cyllid i reoli costau’r gweithlu a hyrwyddo sefydlogrwydd y farchnad gofal cymdeithasol
  • £8m i gefnogi’r gwaith o atal plant rhag cael eu derbyn i ofal gan wella canlyniadau i blant sy’n gadael gofal
  • £3 miliwn i awdurdodau lleol weithredu gofal seibiant i ofalwyr 

“Bydd y buddsoddiad yn gwella canlyniadau i’r bobol fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas,” meddai Rebecca Evans.

“Caiff ei ddefnyddio i wella cynaliadwyedd y farchnad gofal cymdeithasol, lleihau nifer y plant sy’n cael eu derbyn i ofal, a gwella cymorth i ofalwyr,” ychwanegodd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw fod y cyllid hwn yn golygu fod £55m o gyllid ychwanegol wedi’i fuddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol yn 2017-18.