Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn neilltuo £45 miliwn i gefnogi treftadaeth ddiwylliannol genedlaethol Cymru.

Ymhlith y sefydliadau fydd yn elwa yn 2017-2018 mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a Chasgliad y Werin.

“Dw i’n falch iawn o gyhoeddi’r arian sylweddol hwn, gan gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru unwaith eto i’n sefydliadau cenedlaethol,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi.

“Mae’r sefydliadau hyn yn drysorau sy’n cael eu mwynhau gan filiynau o bobol ledled y byd,” meddai.

“Maent yn amddiffyn, addysgu, hysbysu a diddanu a bydd cyllid eleni yn caniatáu i’r gwaith gwerthfawr hwn barhau.”

Croesawu

Mae Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi croesawu’r buddsoddiad, ac yn ôl David Anderson Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “gallwn sicrhau bod swyddi yn fwy diogel, diogelu arbenigedd a chynnal y gwasanaeth amgueddfeydd o safon fyd-eang ar gyfer pobol Cymru a’i hymwelwyr.”

Ychwanegodd Linda Tomos, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru fod y gefnogaeth yn eu galluogi i “ddatblygu gwasanaeth digidol arloesol newydd gan sicrhau bod mwy o’r casgliadau cenedlaethol ar gael i bawb.”