Lucie Jones (Llun: Mykola Swarnyk CCA3.0)
Daeth Lucie Jones o Bentyrch ger Caerdydd yn bymthegfed yng nghystadleuaeth ganu yr Eurovision yn Kyiv neithiwr – perfformiad gorau’r Deyrnas Unedig ers i Blue orffen yn unfed ar ddeg yn 2011.

Enillodd hi 111 o bwyntiau yn y pen draw ar gyfer ei pherfformiad o’r gân Never Give Up On You – y nifer fwyaf o bwyntiau i’r Deyrnas Unedig ers wyth mlynedd.

Cafodd hi ei disgrifio gan y sylwebydd Graham Norton fel “un o’n cystadleuwyr cryfaf ers blynyddoedd”.

Dydy’r Deyrnas Unedig ddim wedi ennill y gystadleuaeth ers 1997, pan ddaeth Katrina Leskanich – prif leisydd Katrina and the Waves – i’r brig.

Portiwgal

Salvador Sobral ddaeth i’r brig gyda’r gân Amar Pelos Dois (I’r Ddau Ohonon Ni).

Dyma’r tro cyntaf erioed i Bortiwgal ennill y gystadleuaeth, ac fe lwyddodd y gân i ennill 758 o bwyntiau.

Fe fu Salvador Sobral yn sâl ers peth amser ac fe ddywedodd ei bod yn bwysig iddo ennill gyda “cherddoriaeth sy’n golygu rhywbeth”, gan ladd ar gerddoriaeth gyfoes.

“Ry’n ni’n byw mewn byd o gerddoriaeth sydd ar gael yn hawdd, cerddoriaeth bwyd parod heb gynnwys a dw i’n credu y gall hyn fod yn fuddugoliaeth i gerddoriaeth sy’n golygu rhywbeth.

“Nid tân gwyllt mo cerddoriaeth, teimlad yw cerddoriaeth… dod â cherddoriaeth yn ôl sy’n bwysig.”

Gorffennodd Bwlgaria yn ail a Moldofa yn drydydd.