Lucie Jones (Llun o'i chyfrif Twitter)
Mae Lucie Jones o Bentyrch ger Caerdydd yn paratoi i gynrychioli Prydain yng nghystadleuaeth ganu’r Eurovision yn ninas Kyiv heno.

Bydd cyn-gystadleuydd yr X-Factor yn perfformio’r gân Never Give Up On You wrth iddi geisio gwella ar berfformiad Prydain y llynedd, wrth i Joe and Jake orffen yn 24ain allan o 26.

Un hanner o’r ddeuawd Joe and Jake oedd Joe Woolford o Ruthun.

Hon hefyd yw’r gystadleuaeth gyntaf ers i Brydain bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond dywedodd Lucie Jones yn ddiweddar na ddylai’r penderfyniad hwnnw ddylanwadu ar ganlyniad y gystadleuaeth heno.

Dydy Prydain ddim wedi ennill yr Eurovision ers 20 mlynedd, pan gipiodd Katrina Leskanich y goron gyda Love Shine A Light.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu ar BBC1 am 8pm heno.