Jamie Roberts (llun: Andrew Matthews/PA)
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi mai’r canolwr, Jamie Roberts, fydd capten carfan rygbi Cymru wrth iddyn nhw deithio i hemisffer y de yr haf hwn.

Mae’r hyfforddwr Robin McBryde wedi cyhoeddi carfan o 32 o chwaraewyr i herio Tonga yn Auckland ar Fehefin 16, ac yna Samoa yn Apia ar Fehefin 23.

Maen nhw’n brin o ddeuddeg o chwaraewyr sy’n rhan o garfan y Llewod dan gapteniaeth Sam Warbuton gyda Warren Gatland yn brif hyfforddwr a Rob Howley yn ymuno â nhw.

Capiau cyntaf

 

Yn ystod taith Cymru fe fydd 13 o chwaraewr yn ennill capiau am y tro cyntaf, sef Seb Davies, Adam Beard, Ryan Elias, Ollie Griffiths, Wyn Jones, Rory Thornton, Thomas Young, Aled Davies, Keelan Giles, Owen Williams, Rhun Williams a Tomos Williams.

“Mae gennym amrywiaeth dda o brofiad ac ieuenctid yn y garfan,” meddai Robin McBryde.

“Bydd disgwyl i’r chwaraewyr hŷn ddangos eu nodweddion arwain, ac rydym eisiau i’r dynion iau ddangos fod ganddyn nhw’r hyn sydd ei angen i ddelio ag amgylchedd ryngwladol dwys,” meddai.

Y garfan yn llawn…
Blaenwyr: Scott Baldwin, Jake Ball, Adam Beard, Kristian Dacey, Seb Davies, Ryan Elias, Rob Evans, Tomas Francis, Ollie Griffiths, Cory Hill, Ellis Jenkins, Wyn Jones, James King, Samson Lee, Josh Navidi, Nicky Smith, Rory Thornton, Thomas Young.

Olwyr: Cory Allen, Gareth Anscombe, Alex Cuthbert, Aled Davies, Gareth Davies, Sam Davies, Steff Evans, Keelan Giles, Tyler Morgan, Jamie Roberts, Owen Williams, Rhun Williams, Scott Williams, Tomos Williams.