Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i geffyl gael ei saethu’n farw mewn cae yn Sir y Fflint.

Daeth swyddogion troseddau cefn gwlad o hyd i gorff y ceffyl mewn cae ger Mynydd yr Hob yng Nghaergwrle ddydd Sul.

Roedd y ceffyl brown wedi cael anaf i’w ben.

Credir bod yr ymosodiad wedi digwydd dros nos ac nid yw’n glir ar hyn o bryd pwy sy’n berchen yr anifail.

Wrth drydar am y digwyddiad dywedodd Tîm Troseddau Cefn Gwlad Gogledd Cymru bod y drosedd yn un “gwirioneddol ofnadwy” ac maen nhw wedi apelio am help y cyhoedd i ddod o hyd i’r rhai fu’n gyfrifol.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r Gogledd ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555111.