Cefn Coch ger Machynlleth (Llun: Gwefan Coed Cadw)
Mae dwy elusen cadwraeth wedi lansio apêl brys i godi arian er mwyn adfer 300 erw o dir sydd wedi ei “esgeuluso” ger Machynlleth.

Dros gyfnod o 20 blynedd mae Coed Cadw a Thir Gwyllt Cymru yn bwriadu defnyddio prosesau naturiol er mwyn adfer traean o’r tir yng Nghefn Coch a’i droi’n goetir agored.

Bydd 5,000 o goed brodorol, gan gynnwys derw a chyll, yn cael eu cyflwyno  ac mae’r elusennau yn gobeithio denu rhywogaethau eiconig fel bele’r coed a’r pathew yn ôl i’r safle yn y tymor hir.

Cyn diwedd mis Mai mae’r elusennau cadwraeth yn gobeithio codi £350,000 ac mae £200,000 eisoes wedi cael ei addo tuag at y targed.

 “Sefyllfa gyffrous”

“Mae ‘na gyfle unigryw i ddweud y gwir i wneud rhywbeth gwahanol,” meddai Rheolwr Cyfathrebu Coed Cadw, Rory Francis wrth golwg360. “Mae’n sefyllfa gyffrous i ni i ddweud y gwir.”

“’Da ni’n meddwl bod hyn yn ffordd o adfer tir sydd yn werth ei drio. Yn enwedig yn y sefyllfa yma lle nad yw’r tir wedi cael ei bori ers tipyn, ac felly ni fyddwn yn tynnu’r tir allan o amaethyddiaeth mewn unrhyw ffordd.”