Castell Sain Ffagan
Fe all ymwelwyr sy’n ymweld ag Amgueddfa Werin Cyrmu yn Sain Ffagan gael “blas gwahanol” wrth deithio o gwmpas gerddi’r castell – trwy ddefnyddio ap newydd sy’n dweud straeon am y lle.

Mae’r ap Traces/Olion yn tynnu ar ddeunydd o archifau’r Amgueddfa ac yn adrodd hanes cymeriadau a allai fod wedi cael eu gweld yn crwydro’r castell a’r gerddi yn nechrau’r ugeinfed ganrif.

Mae’n cynnwys deunydd sy’n para 30 munud ac wedi’i rhannu’n bedair pennod.

Crewyd mewn cydweithrediad rhwng Amgueddfa Cymru, Prifysgol Caerdydd a yello brick, sef cwmni marchanta ym Mae Caerdydd sydd hefyd yn creu gemau stryd.

Herio ymwelwyr

Yn ôl Dafydd James, Pennaeth Cyfryngau Digidol, Amgueddfa Cymru, mae’n gobeithio y bydd y “dehongliad creadigol” newydd hwn yn “herio” ymwelwyr i ymwneud mwy â Sain Ffagan, a hynny mewn “modd gwahanol”.

“Bydd yr ap yn fodd iddyn nhw hefyd ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd i fwynhau stori yn nhawelwch gerddi hanesyddol y castell,” meddai.

Mae’r ap ar gael i’w ddefnyddio yn ystod oriau agor yr Amgueddfa ac ar gael i’w lawrlwytho o flaen llaw o’r Siop iTunes neu Google Play yn rhad ac am ddim.