Mae BBC Cymru’n “cymryd camau pellach i draflyncu S4C”, yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Daw sylwadau’r cadeirydd, Heledd Gwyndaf, ar ôl i bennaeth cynhyrchu cynnwys BBC Cymru, Sian Gwynedd awgrymu y byddan nhw’n ymchwilio i’r posibilrwydd o symud i bencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin.

Wrth iddi roi tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Cynulliad ddydd Mercher, fe ddywedodd Sian Gwynedd bod gan y BBC bymtheg o bobol yn gweithio yn y stiwdio ar Heol y Prior, Caerfyrddin, a bod y Gorfforaeth yn edrych ar “ddichonoldeb” symud y rhain i adeilad newydd Yr Egin.

Wrth ymateb i sylwadau Sian Gwynedd, dywedodd Heledd Gwyndaf fod y BBC “ers, 2010… wedi cynllwynio gyda’r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain i danseilio annibyniaeth S4C”.

“Nid partneriaeth rydyn ni’n ei weld yn datblygu, ond traflyncu graddol ein hunig ddarlledwr cynhenid Cymraeg gan gorfforaeth Brydeinig.”

“Mae’r BBC yn cynllunio cymryd drosodd trosglwyddo signal darlledu S4C. A heddiw, rydyn ni’n clywed bod swyddi eraill S4C yn mynd i gael eu lleoli yn eu pencadlys newydd yng nghanol Caerdydd.

“Os yw un darlledwr yn rhannu swyddfeydd ym mhencadlys y llall, ydyn nhw’n mynd i weithredu’n annibynnol?

“Mae colli annibyniaeth S4C yn un rhan o sut mae’r system ddarlledu sy’n trin Cymru a’r Gymraeg yn hollol annheg.

“Mae’n hanfodol bod darlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru. Dyna pam rydw i a nifer o bobl eraill yn gwrthod talu am ein trwyddedau teledu.”