Cerys Yemm (Llun: Heddlu Gwent)
Mae Aelod Seneddol Islwyn, Chris Evans wedi galw am ddiwygio’r system gyfiawnder wrth i’r cwest i farwolaeth dynes 22 oed mewn gwesty yn Argoed ddod i ben.

Daeth y rheithgor yn y cwest i farwolaeth Cerys Yemm i’r casgliad ei bod hi wedi cael ei lladd yn anghyfreithlon gan Matthew Williams, 34, mewn gwesty yn Argoed yn 2014.

Digwyddodd yr ymosodiad yng ngwesty’r Sirhowy Arms bythefnos yn unig ar ôl i Matthew Williams gael ei ryddhau o’r carchar ar ôl 27 mis dan glo yng ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr am lwgrwobrwyo.

Clywodd y cwest ei fod e wedi cael pwl o seicosis ar ôl cymryd canabis ac amffetaminau.

Roedd e wedi gwrthod unrhyw fath o gymorth gan yr awdurdodau ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar, er eu bod nhw’n ymwybodol o’i salwch meddwl a’i fod yn cymryd cyffuriau.

Bu farw Cerys Yemm o anafiadau difrifol mewn gwesty oedd wedi cael ei drefnu ar gyfer Matthew Williams gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

‘Bygythiad i’r gymdeithas’

Ar ddiwedd y cwest, dywedodd Aelod Seneddol Islwyn, Chris Evans nad oedd hi’n glir pam fod Matthew Williams wedi cael ei ryddhau pan oedd e’n “fygythiad i’r gymdeithas”.

Mae e bellach yn galw am roi mwy o bwerau i’r gwasanaeth prawf i ymdrin â throseddwyr ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau o’r carchar.

Dywedodd fod “rhaid” diwygio’r system gyfiawnder, gan alw am orfodi troseddwyr sy’n cael eu rhyddhau i gael eu monitro “tan bod swyddogion yn fodlon nad ydyn nhw bellach yn fygythiad i’r gymdeithas”.

Dywedodd hefyd fod y cwest yng Nghasnewydd yn dangos bod angen “mwy o gydweithio rhwng y gwasanaeth prawf, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill sy’n ymdrin â rhyddhau carcharorion”.

“Gellid fod wedi gwneud mwy i gydweithio,” ychwanegodd.

Gwrthod llety

Ar ôl cael ei ryddhau, aeth tad Matthew Williams â fe at adran tai Cyngor Casnewydd ond fe gafodd ei wrthod gan nad oedd ganddo fe gysylltiad agos â’r ardal.

Roedd rhaid iddo ddychwelyd i Gyngor Bwrdeistref Caerffili, lle’r oedd ganddo fe hanes o droseddu.

Dywedodd Chris Evans fod “nifer o gwestiynau allweddol y mae angen eu hateb o hyd”

“Mae angen eglurhad ynghylch pam nad oedd canllawiau Llywodraeth Cymru wedi cael eu dilyn a pham na chafodd Mr Williams gartref yng Nghasnewydd.

“Mae hi’n aneglur hefyd pam y cafodd Mr Williams ei ryddhau er ei fod e’n dal yn fygythiad i’r gymdeithas.

“Dw i ddim yn credu bod digon o atebion wedi’u rhoi ynghylch y driniaeth, neu’r diffyg triniaeth, gafodd e yn y carchar.”

Mae e wedi galw ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i roi cefnogaeth ddigonol i droseddwyr ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau o’r carchar.