Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bydd modd pori drwy gofnodion hanesyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol wrth i archif arbennig gael ei sefydlu yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Daw hyn wrth i’r ddau gorff lunio strategaeth i ddiogelu’r archifau, a thros y chwe mis nesaf bydd rhai o gofnodion y Cynulliad yn symud i’r Llyfrgell yn Aberystwyth i’w harchifo.

Mae’r dogfennau’n cynnwys deddfwriaethau, adroddiadau pwyllgorau, datganiadau a’r Trafodion gan ategu at ymrwymiad y Cynulliad i fod yn “agored a thryloyw”.

‘Hygyrch a hawdd’

“Rwy’n ymrwymedig i ddemocratiaeth dryloyw ac yr wyf eisiau sicrhau fod ein cofnodion seneddol yn hygyrch a hawdd eu chwilio gan ddefnyddwyr heddiw ac ymchwilwyr y dyfodol,” meddai Elin Jones, Llywydd y Cynulliad.

Ychwanegodd Linda Tomos, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Ymhen amser bydd haneswyr cyfansoddiadol y dyfodol yn profi gwerth yr archif yma wrth iddyn nhw ymchwilio i flynyddoedd cynnar ein Cynulliad”.