Y teulu (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i bum aelod o’r un teulu fu farw mewn gwrthdrawiad hofrennydd ar fynyddoedd y Rhinogydd ger Trawsfynydd yr wythnos ddiwetha’.

Bu farw Kevin Burke (56) a’i wraig Ruth (49), Donald Burke (55) a’i wraig Sharon (48), a Barry Burke (51) o Milton Keynes wrth i’r hofrennydd ddisgyn yn yr ardal wrth fethu â chyrraedd Dulyn.

Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau fod gweddillion yr hofrennydd bellach wedi’u hadfer ac yn cael eu gyrru i ffwrdd am ymchwiliad manwl gan Fwrdd Ymchwilio Damweiniau’r Awyr.

‘Anhunanol a didwyll’

Dywedodd Olivia Burke, merch Sharon a Donald Burke: “Mae ein teulu wedi newid o fewn diwrnod.

“Cawsant eu cymryd lawer yn rhy gynnar ac mae’n anodd inni ddeall pam y byddai trasiedi o’r fath yn digwydd i’r math gorau o bobol, a oedd mor anhunanol a didwyll i bawb roedden nhw’n cwrdd.

“Byddem yn gwerthfawrogi pe bai pawb yn parchu ein dymuniadau am lonydd i ganiatáu amser inni ddod i delerau â digwyddiadau’r diwrnodau diwethaf drwy gymorth ein teulu a’n ffrindiau.”

Mae datganiad ar ran y teulu Stewardson yn nodi – “Rydym wedi’n llethu’n llwyr gan eich cariad a’ch cefnogaeth. Mae ein meddyliau ar hyn o bryd gyda thri o blant arbennig Sharon a Donald sy’n gredyd i’w rhieni.”

Galw am dystion 

Mae Prif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Richie Green, wedi diolch i’r gymuned leol am eu cydweithrediad dros yr wythnos diwethaf.

Ond, mae’n dal i alw am dystion a fu yn yr ardal rhwng 12 a 1yh ddydd Mercher, Mawrth 29, i gysylltu â’r heddlu ar 101.