Mae colli un o fwytai mwyaf poblogaidd Caernarfon yn “siom” yn ôl un o drefnwyr gŵyl fwyd y dre’.

Fe gyhoeddodd y perchnogion mewn neges ar wefan gymdeithasol Facebook yr wythnos diwethaf fod bwyty Blas yn cau ei ddrysau “yn ei wedd bresennol”.

Er hyn, nid oes rhagor o fanylion wedi’i ddatgelu am gynlluniau nesa’r bwyty sydd wedi ennill gwobr Bwyty’r Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd Cymru ddwy flynedd yn ôl, ynghyd â chael ei gynnwys yn y llawlyfr Michelin.

‘Cogydd arbennig’

“Mae colli unrhyw fwyty o safon fel yna’n wael i unrhyw dref, ond yn arbennig Caernarfon achos mae gynnon ni lefydd da iawn i fwyta,” meddai Nici Beech, un o drefnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon.

“O ran yr ŵyl, mi oedd Dan [Daniel ap Geraint, prif gogydd Blas] yn un o’r cogyddion oedd yn cymryd rhan y llynedd, ac mi wnaeth o ddenu lot fawr o bobol i ddod i wylio, felly rydan ni’n siomedig fod y bwyty ddim yn mynd i fod yna pan mae’r ŵyl yn digwydd eleni,” meddai.

“Ond gobeithio bydd o ddim yn hir tan y bydd o’n dod yn ôl efo rhywbeth arall a gobeithio mae yng Nghaernarfon y bydd o – achos mae o’n gogydd arbennig iawn.”

Cynlluniau nesaf…

Roedd y bwyty yn cael ei redeg gan Daniel ap Geraint a Mari Geraint ac mae’r neges ar eu gwefan yn nodi: “Wedi 4 blynedd lwyddiannus, hoffem roi gwybod i chi fod Blas (ar ei wedd bresennol) wedi cau ei ddrysau.”

Ond mae’r neges hefyd yn nodi “Edrychwn ymlaen at rannu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol hefo chi yn fuan.”