Mae elusen fydd yn dosbarthu arian gaiff ei godi trwy Loteri Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn gobeithio buddsoddi £5m mewn achosion da yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.

Hanfod Cymru bydd yn gyfrifol am ddosbarthu arian caiff ei godi at achosion da gan Loteri Cymru, a’r gobaith yw y bydd 20% o werth tocynnau yn mynd tuag at brosiectau yng Nghymru.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil lansiad Loteri Cymru wythnos ddiwethaf – sef loteri Gymreig fydd â jacpot wythnosol o £25,000.

Elusen annibynnol yw Hanfod Cymru, fydd hefyd yn goruchwylio’r gwaith o dynnu’r rhifau’r loteri bob wythnos.

“Cefnogi mentrau”

Mae prosiectau bach wedi eu gwahodd i geisio ar gyfer rhaglen grantiau’r elusen ac mi fydd rhaglen grant pellach ar gyfer prosiectau mwy yn cael ei gyhoeddi yn hwyrach eleni.

“Bydd Hanfod yn cefnogi mentrau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn mewn cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru, gyda llawer ohonyn nhw eisoes yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i gyllid i gefnogi eu gweithgareddau,” meddai Prif Swyddog Gweithredol Hanfod Cymru, Marc Phillips.

Bydd tocynnau loto’r wythnos gyntaf ar werth ar Ebrill 10 gyda’r tocynnau yn cael eu tynnu am y tro cyntaf ar Ebrill 28.