Owain Glyndŵr
Mae tîm o archeolegwyr o Brifysgol Caergrawnt wedi dod o hyd i sgerbwd hynafol yn ei arfwisg mewn man hanesyddol ar fynydd Moel yr Ogof, ger Beddgelert.
Dyma leoliad anghysbell Ogof Glyndŵr.
Mae arbenigwyr o Goleg Mair, Caergrawnt o’r farn bod gweddillion y corff yn dyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif.
Cafwyd hyd i gleddyf yn gorwedd ar y gweddillion ac esgyrn anifail wrth ei ochr. Er nad ydyn nhw wedi cwblhau’r tyllu gofalus yn Ogof Glyndŵr ar ochr ddwyreiniol y mynydd ar lethrau Cwm Pennant, creda arbenigwyr mai gweddillion ceffyl neu fuwch yw’r anifail.
Broetsh aur
Cafwyd caniatad arbennig gan Awdurdod Parc Eryri i ymchwilio’r safle wedi i ddringwr lleol, Siôn Peris o Garndolbenmaen, dod o hyd i froetsh aur wedi’i hanner claddu yn ddwfn yn yr ogof yn 2015.
“Pan es i â’r darn o aur i’r archifdy yng Nghaernarfon roedd y staff yno wedi gwirioni’n llwyr,” meddai’r dringwr wrth golwg360. “Ac wedyn pan ddaeth y bobol mawr yma i fyny o Gaergrawnt ges i fy swornio tŵ sicrysi.”
Erbyn hyn mae Siôn Peris wedi cael gwybod ei fod yn cael cadw hanner gwerth y broetsh gyda’r hanner arall yn mynd i’r ffermwr sy’n berchen ar dir yr ogof.
Er mai Ogof Glyndŵr yw enw’r ogof a bod blynyddoedd olaf yr arwr Cymreig yn ddirgelwch llwyr, nid yw’r archaeolegydd Dr Virum Stultum yn fodlon cysylltu’r ddau beth â’i gilydd.
“Gall fod yn ddim mwy na chyd-digwyddiad,” meddai. “ Tydi’r ffaith bod lleoliad corff Glyndŵr ddim yn hysbys i ni ddim yn meddwl mai hwn yw corff y tywysog.”