Mae ymgyrch ar droed i geisio achub un o strydoedd hynaf a mwyaf eiconig Caerdydd yn dilyn bwriad i adeiladu bloc o fflatiau arno.
Yn ôl gwefan Wales Online, mae datblygwr eiddo lleol, Afzal Khan, wedi cyflwyno cais i adeiladu chwe fflat y drws nesaf i Glwb Ifor Bach ar Stryd y Fuwch Goch (Stryd Womanby).
Ers degawdau mae Clwb Ifor Bach yn cynnal nosweithiau cerddoriaeth fyw Cymraeg yn y brifddinas.
Er bod cais Afzal Khan yn cynnwys cynigion i sicrhau na fydd sŵn yn cael ei glywed yn y fflatiau, mae pobol yn poeni y gallai’r datblygiad roi taw ar sin gerddoriaeth fyw Caerdydd, fel sydd wedi digwydd mewn dinasoedd eraill.
Mwy o gynlluniau
Mae’r newyddion yn dilyn cynlluniau cwmni Wetherspoons i adeiladu gwesty ar ben ei dafarn ar yr un stryd ac ar ôl i far Dempsey’s, ger Clwb Ifor Bach, gau, er mwyn gwneud lle i far chwaraeon newydd yn enw Gareth Bale.
Mae dros 6,000 o bobol wedi hoffi tudalen Facebook ‘Achub Stryd Womanby’ ac mae’n debyg bod dros 100 o bobol wedi codi pryderon gyda Chyngor Caerdydd yn erbyn y fflatiau.
Bydd yr ymgyrchwyr yn lobïo cynghorwyr y brifddinas ac Aelodau’r Cynulliad er mwyn sicrhau parhad i’r sîn cerddoriaeth ar y stryd.
Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â Chlwb Ifor Bach.