Carwyn Jones a Gordon Brown, confensiwn cyfansoddiadol Llafur. Llun: O wefan Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
Wrth i Theresa May ddechrau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos hon, mae Gareth Hughes yn canolbwyntio ar ddadl gafodd ei chynnal yn Siambr y Senedd ar Brexit.

Roedd Carwyn Jones yn cwyno na chafodd cyfle i hyd yn oed weld llythyr Theresa May at Ewrop yn ei hysbysebu’n ffurfiol bod Prydain yn gadael.

Diwrnod tywyll oedd hi iddo fe ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ond roedd arweinydd UKIP, Neil Hamilton ac arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, yn mynnu bod angen bod yn fwy optimistaidd.

Yr wythnos hon hefyd, fe gynhaliodd Llafur gonfensiwn ar ddyfodol cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yng nghwmni Gordon Brown a Kezia Dugdale, arweinydd Llafur yn yr Alban.

Ble mae’r bobol oedd cwestiwn Gareth Hughes – dim ond y “crachach” oedd yno i glywed syniadau am Brydain mwy ffederal, onid oes angen clywed barn bobol gyffredin?