Llun Loteri Cymru
Fe fydd gan Gymru ei loteri wythnosol ei hun o ddiwedd y mis nesa’.

Fe fydd gan Loteri Cymru jacpot wythnosol o £25,000 gyda’r enillion yn cyfrannu at achosion cymunedol ledled y wlad.

Gall unrhyw un sy’n 16 neu hŷn ddechrau prynu tocynnau £1 ar-lein ar Ebrill 10, gyda’r loto wythnosol yn cael ei dynnu a’i ddarlledu ar S4C am 8 bob nos Wener o Ebrill 28 ymlaen.

Bydd pob tocyn aflwyddiannus yn mynd ymlaen i gystadlu mewn loto+ misol, lle ydd 10 gwobr o £1000 yr un.

“Cymru ar ei hennill”

“Rydyn ni’n lansio Loteri Cymru i greu Cymru ar ei hennill ar gyfer pobol a chymunedau, lle gall pobl fforddio trio’u lwc ar ennill jacpot a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau, ac i fywydau eu cymunedau lleol hefyd,” meddai Cadeirydd Loteri Cymru, Gareth Davies.

“R’yn ni am i Loteri Cymru fod yn rhan o fywyd y Cymry, cyn gynted â phosib, lle y bydd pawb yng Nghymru yn nabod rhywun sydd wedi ennill gwobr neu’n gwybod am achos da sydd wedi elwa.”

Fe fydd elusennau lleol o bob cwr o Gymru yn cael eu gwahodd i wneud cais am gymorth i’w prosiectau cymunedol.