Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw eu bod am fuddsoddi £7 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaeth awtistiaeth yng Nghymru.

Daw hyn fel rhan o’u hymrwymiad i greu gwasanaeth cenedlaethol i blant ac oedolion ag awtistiaeth fydd ar gael ar draws Cymru erbyn 2018.

Mae’r £7 miliwn yn dod â chyfanswm y cynllun i £13 miliwn, fydd yn para dros y pedair blynedd nesaf hyd at 2021 gan gynnig gwasanaethau gofal i blant ac oedolion ynghyd â theuluoedd a gofalwyr.

Wythnos Genedlaethol Awtistiaeth

“Ers amser maith, mae Cymru wedi bod yn arwain y ffordd o ran darparu cymorth i bobol ag awtistiaeth a’u teuluoedd, gan gyhoeddi ein cynllun gweithredu cyntaf yn ôl yn 2008,” meddai Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

“Mae’r cyllid ychwanegol dw i wedi ei gyhoeddi heddiw, ar ddechrau Wythnos Genedlaethol Awtistiaeth, yn dangos ein hymrwymiad parhaus i wella gwasanaethau awtistiaeth,” meddai.

Wrth groesawu’r cyhoeddiad dywedodd Steve Thomas, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol y bydd y cyllid yn “dyfnhau ein gwaith efo unigolion gydag ASA, eu teuluoedd a gofalwyr, a’r rhai sydd yn gweithio gyda phlant ac oedolion gydag ASA.”