Lladd-dy Llanybydder (Llun: golwg360)
Mae cynghorydd yn Llanybydder wedi dweud wrth bobol leol am bwyllo cyn dechrau codi ofnau am rai cannoedd o swyddi yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’r wasg arbenigol – yn y diwydiant cig a’r diwydiant amaeth yn Iwerddon – wedi bod yn llawn straeon fod cwmni Dunbia, perchnogion lladd-dy mawr Llanybydder, ar fin cael ei brynu gan gwmni Gwyddelig arall, Dawn Meats.

Ond mae’r cynghorydd lleol, Ieuan Davies o Lanybydder, wedi pwysleisio wrth golwg360 nad yw safle lladd-dy ŵyn wedi cael ei werthu hyd yma.

‘Dim penderfyniad’

“Does dim byd wedi ei benderfynu,” meddai Ieuan Davies wrth golwg360 wrth ymateb i straeon lleol.

Pe bai’r gwerthu’n digwydd, fe fyddai pryderon am swyddi yn adran bacio Dunbia.

Mae’r prynwyr posib, Dawn Meats, yn berchen ar safle yn Cross Hands a’r ofn yw y gallai’r gwaith pacio gael ei symud o Lanybydder a ffatri arall yn Felin-fach yn Nyffryn Aeron.

Mae’r wasg yn Iwerddon wedi bod yn sôn ers tua phythefnos fod bargen yn yr arfaeth ond mae’r ddau gwmni wedi gwrthod cadarnhau hynny.

Y cefndir

Y dyn busnes lleol Oriel Jones oedd yn berchen ar y lladd-dy yn Llanybydder cyn i Dunbia ei brynu yn 2001, ac mae gan y cwmni safle pacio yno, ac yn Felin-fach ers 2013.

Mae lle i gredu bod y trafodaethau rhwng y ddau gwmni wedi para chwe mis wrth i berchnogion Dunbia, Jim a Jack Dobson baratoi i ymddeol o’r cwmni teuluol a gafodd ei sefydlu yn Waterford yn 1980.