Carwyn Jones (Llun: Ben Birchall/ PA Wire)
Yn ei araith yng nghynhadledd Llafur Cymru heddiw, mae Carwyn Jones wedi cyhoeddi cyfres o gynlluniau – sy’n dangos bod gan y blaid “lawer o syniadau” o hyd, meddai.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth golwg360 fod y rhain yn ganlyniad i’r £200 miliwn i Gymru a gyhoeddodd y Canghellor, Philip Hammond, yng Nghyllideb y Gwanwyn.

O ganlyniad i ymgyrch un o Aelodau Seneddol Llafur, Carolyn Harris sy’n cynrychioli Dwyrain Abertawe, cyhoeddodd Carwyn Jones na fydd costau i angladdau plant yng Nghymru rhagor.

Roedd ei gyhoeddiadau eraill yn cynnwys:

  • Cyfnod prawf o 12 mis o deithio am ddim ar fysiau TrawsCymru dros benwythnosau
  • Band-eang ar bob trên yng Nghymru a’r gororau erbyn mis Medi eleni
  • £20 miliwn yn ychwanegol i ofal cymdeithasol yng Nghymru
  • Sefydlu Comisiwn Gwaith Teg er mwyn rhoi mynediad i bobol at swyddi a chyflog gwell

“Mae’r arian i dalu am y rhain wedi dod o’r arian ry’n ni wedi cael o’r Gyllideb yn Llundain felly beth ry’n ni mo’yn yw ystyried ym mha ffordd gallai’r arian hynny gael ei wario yn y ffordd fwya’ effeithiol,” meddai Carwyn Jones wrth golwg360.

“Ac mae’n dangos ein bod ni’n dal i fod yn blaid sydd â llawer o syniadau.”

‘Dim siop siarad’

O ran sefydlu gwasanaeth am ddim ar fysiau TrawsCymru ar benwythnosau, dywedodd Carwyn Jones fod digon o bobol yn defnyddio’r gwasanaeth ond bod y blaid am sicrhau bod “mwy o bobol yn defnyddio’r bysiau ar y penwythnos.”

Mae’r Llywodraeth am sicrhau hefyd bod mwy o bobol yn sylweddoli bod y gwasanaeth ar gael.

“Ry’n ni am sicrhau bod y rhwydwaith yn cryfhau eto yn y pendraw,” ychwanegodd.

Gwadodd Carwyn Jones mai siop siarad yn unig fydd y Comisiwn Gwaith Teg, gan ddweud bod angen rhoi sicrwydd gwaith i bobol a rhoi mwy o arian i bobol yn eu pocedi.

“Sut ry’n ni’n datrys hwnna? Gweithio gyda’r undebau, gweithio gyda’r busnesau.”

Byddai’r Comisiwn yn ceisio codi sgiliau pobol Cymru, meddai, wrth wneud y gweithlu’n fwy cynhyrchiol a sicrhau bod pobol yn ennill mwy o arian.

“Wrth weithio gyda busnesau, ni’n gwybod beth maen nhw’n gweld sydd eisiau arnyn nhw er mwyn bod nhw’n gallu cael gweithwyr sy’n fwy cynhyrchiol a bod y gweithwyr hynny’n cael mwy o arian.”

“Llai RS Thomas a mwy Cerys Matthews”

Wrth sôn am werthu Cymru i’r byd, dywedodd Carwyn Jones fod angen i bobol Cymru fod yn fwy optimistig.

“Llai RS Thomas a mwy Cerys Matthews,” meddai yn ei araith.