Llun Golwg360
Mae un o weisg amlyca’ Cymru wedi dweud nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn prynu papur newydd Y Cymro.

Yn ôl Rheolwr Gyfarwyddwr Y Lolfa, Garmon Gruffudd, doedd gan y cwmni ddim yr adnoddau i gymryd yr wythnosolyn dan ei adain.

Mae’n hysbys fod sylfaenydd Y Lolfa, Robat Gruffudd, wedi holi am y posibilrwydd o brynu’r papur yn y gorffennol.

“Pwysig iawn”

Ac fe ddywedodd Garmon Gruffudd ei bod yn “bwysig iawn, iawn” bod Y Cymro yn parhau ac y byddai’n gefnogol i unrhyw rai sydd am brynu’r papur newydd.

O ran natur y gefnogaeth honno, mae hynny’n “dibynnu ar yr amgylchiadau,” meddai.

“Go brin bydden ni jyst yn gallu taflu arian, [ond] yn amlwg byddwn ni’n parhau i hysbysebu ac yn y blaen.”

“Bwlch mawr” heb Y Cymro

Mae perchnogion y cyhoeddiad, cwmni Tindle Newspapers, wedi penderfynu ei werthu, a hynny am bris ‘nominal’, sy’n is na’i werth masnachol.

Os na fydd prynwr yn dangos diddordeb, fe fydd y fenter yn dod i ben ym mis Mehefin, 85 o flynyddoedd ers ei sefydlu..

Dywedodd Garmon Gruffudd y byddai “bwlch mawr” yn y byd cyhoeddi yng Nghymru, pe bai’r Cymro yn dod i ben.

Galw ar y Llywodraeth

“Mewn unrhyw wlad, mewn unrhyw iaith, mae ‘na bapurau newyddion print. Byddai colli’r unig bapur newydd wythnosol, cenedlaethol yn golled anferth,” meddai Garmon Gruffudd.

“Dw i’n gobeithio bod y bwlch ‘na’n cael ei lanw mewn rhyw ffordd ond o ran Y Lolfa, bydden i ddim mewn sefyllfa i gymryd yr awennau dw i ddim yn meddwl.

Ychwanegodd y dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd er mwyn sicrhau parhad y papur newyddion.

“Pe bai’r Cymro yn dod i ben a bod neb arall yn cymryd yr awennau, byddai’n rhaid edrych ar sut gallan nhw [Llywodraeth Cymru] gefnogi rhyw fath o gyhoeddiad print,” meddai.

Rhaid newid

O drafod dyfodol Y Cymro, roedd Garmon Gruffudd yn cydnabod y byddai’n rhaid gwneud newidiadau.

“Gan fod gwefannau newyddion a newyddion 24 awr ar y teledu, mae rôl papurau newydd wedi newid felly mae’n amlwg bod unrhyw bapur newydd wythnosol yn mynd i orfod newid.

“Efallai y byddai eisiau iddyn nhw adrefnu rhywfaint ar y cynnwys a chynnwys pethau efallai sydd ddim yn dyddio mor gyflym a mwy o sylwebaeth, efallai.

“Mae pobol yn dal i brynu papurau newydd ac mae rhai papurau yn llwyddo, er enghraifft, mae cylchrediad y Private Eye yn cynyddu.

“Mae cael papur newydd print Cymraeg mewn siopau yn rhywbeth pwysig. Byddai sefyllfa bod ‘na ddim un papur newydd Cymraeg cenedlaethol yn sefyllfa druenus.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae’n hynod o bwysig bod gennym bresenoldeb Cymraeg cryf ar bob platfform yn y cyfryngau ac er bod y newyddion yn siomedig, dylai hefyd gael ei weld fel cyfle i’r Cymro ac eraill i ystyried sut orau i ddelifro hynny,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym eisoes wedi cyhoeddi y byddwn yn sefydlu fforwm y cyfryngau annibynnol i ystyried dyfodol y cyfryngau a darlledu yng Nghymru, gan gynnwys sector y cyfryngau print a phlwraliaeth. Mae trefniadau ar waith i sefydlu hyn.”