Mae cyn-filwr fu’n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi’i garcharu am 16 mis am gnoi darn o glust dyn arall i ffwrdd ar noson allan yn un o dafarndai’r dref.

Roedd y myfyriwr Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Geraint Jones, wedi gwisgo i fyny fel y Cyrnol  Gaddafi ar gyfer noson Calan Gaeaf yn 2015 pan gnôdd glust Gwynant Jones i ffwrdd yn nhafarn yr Academy.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y gŵr 25 oed, sydd wedi treulio pedair blynedd yn y Fyddin a chyfnodau yn Afghanistan, wedi gwylltio ar ôl cael ei wthio’n ôl ac ymlaen yn y dafarn.

Mi aeth yn ôl at y bar a chnoi rhan o glust Gwynant Jones i ffwrdd ac fe glywodd y llys fod rhan o’r glust wedi’i ddarganfod ar y llawr gan un o weithwyr y dafarn.

‘Creulon’

Yn ôl y barnwr Geraint Walters, mae ymdrechion llawdriniaethol i ailgysylltu clust Gwynant Jones wedi bod yn aflwyddiannus.

Wrth ddedfrydu Geraint Jones dywedodd y barnwr: “rydych nawr yn derbyn yn stad eich meddwdod eich bod wedi camgymryd y dyn.

“Yn eich diod, fe wnaethoch chi gnoi clust eich dioddefwr. Does dim angen imi ddweud wrthych fod hynny’n ddefnydd mwyaf creulon o rym.”

Fe blediodd Geraint Jones yn euog i achosi niwed corfforol difrifol, ac mae wedi cael dedfryd o 16 mis dan glo.