Mae mudiad iaith yn galw ar y Llywodraeth i fynnu fod Cymwysterau Cymru yn sicrhau bod pob pwnc sydd ar gael trwy’r Saesneg yn ysgolion Cymru hefyd ar gael trwy’r Gymraeg.

Mae Dyfodol i’r Iaith yn rhyfeddu bod Cymwysterau Cymru, corff rheoleiddio cymwysterau Cymru, a noddir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, heb sicrhau bod Seicoleg ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae ystyried y Gymraeg yn ganolog i ddyletswyddau Cymwysterau Cymru,” meddai Eifion Lloyd Jones. “Dylen nhw, o wybod bod prif gorff arholi Cymru (CBAC) yn dileu Seicoleg fel pwnc, sicrhau bod y pwnc yn cael ei gynnig gan ddarparwr arall.

“Os na wneir hyn ar fyrder, yna bydd Seicoleg yn ymuno gydag Economeg fel pwnc fydd yn cael ei gynnig drwy gyfrwng y Saesneg yn unig yng Nghymru’r flwyddyn nesaf.

“Mae CBAC hefyd wedi cadarnhau y bydd tri phwnc arall, sef celfyddydau perfformio, astudiaethau hamdden ac astudiaethau twristiaeth yn cael eu gollwng ym mis Medi,” meddai Eifion Lloyd Jones, “a does dim sicrwydd eto a fyddan nhw’n cael eu cynnig yn Gymraeg yn y dyfodol.

“Gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi nifer o ddarlithwyr newydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf i addysgu’r pynciau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n gwbl hurt bod Cymwysterau Cymru’n mynd ati i sicrhau na fydd myfyrwyr bellach ar eu cyfer.”