Bydd y corff hyrwyddo twristiaeth, Croeso Cymru, mewn confensiwn rhyngwladol wythnos nesaf, i hybu Cymru fel cyrchfan mordeithiau a chwaraeon dŵr.

SeaTrade yw prif ddigwyddiad rhyngwladol y diwydiant mordeithiau gyda dros 700 cwmni ac asiantaeth  o bedwar ban y byd yn arddangos yno.

Ar gyfer y digwyddiad bydd Croeso Cymru yn hyrwyddo Blwyddyn y Môr 2018 a Ras Cefnforoedd Volvo gan mai Caerdydd sydd wedi ei ddewis fel cyrchfan y ras.

Mae mordeithiau yn cyfrannu bron i £3 miliwn i economi Cymru, ac mi fydd 89 o fordeithiau yn galw yma eleni – sy’n gynnydd o 33% ers llynedd.

“Mae SeaTrade yn rhoi cyfle gwych inni sicrhau bod llongau mordeithiau, cwmnïau teithio a phartneriaid yn ystyried Cymru, ac i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan newydd,” meddai Ysgrifennydd Llywodraeth Cymru dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.