Capten y Llewod neu beidio - Alun Wyn Jones (Chris Jobling CCA2.0)
Mae sawl gyrfa yn y fantol heno wrth i dîm rygbi Cymru wynebu Iwerddon yng Nghaerdydd.

Fe allai colled arall roi diwedd ar obeithion y prif hyfforddwr tros dro, Robert Howley, o gael y swydd yn barhaol.

Fe allai wneud drwg tymor hir i yrfaoedd gweddill y tîm hyfforddi hefyd, gan gynnwys cyn-fachwr Cymru, Robin McBride.

Fe allai gadarnhau neu roi diwedd ar obeithion clo Cymru Alun Wyn Jones i fod yn gapten ar dîm rhyngwladol y Llewod i Seland Newydd tros yr ha’.

Ac fe allai benderfynu a fydd nifer o chwaraewyr Cymru’n cael eu dewis neu eu gwrthod ar gyfer y daith.

Lle yng Nghwpan y Byd

Mae nifer o sylwebwyr a chyn-sêr rygbi Cymru, gan gynnwys Gareth Edwards, wedi tanlinellu pa mor bwysig yw’r gêm.

Ar ôl colli’n anlwcus yn erbyn Lloegr a chwalu’n llwyr yn yr ail hanner yn erbyn yr Alban, maen nhw’n dweud bod angen perfformiad mawr.

Yn ogystal â’r effaith ar unigolion, fe allai colli eto ei gwneud hi’n fwy anodd i Gymru yn ngornest nesa’ Cwpan y Byd wrth iddyn nhw syrthio i lawr rhestr y timau gorau.

Howley dan bwysau

Ond Robert Howley sydd dan fwya’ o bwysau ar ôl i arbenigwyr godi amheuon am rai o’i benderfyniadau yn ystod y ddwy gêm cyn hon.

Ac mae wedi cael ei feirniadu eto am gadw at yr un tîm a gollodd yn erbyn yr Alban, yn hytrach na chyflwyno chwaraewyr cyffrous newydd, fel y maswr Sam Davies.

Roedd galwadau hefyd am ollwng yr asgellwr o’r Gogledd, George North, ar ôl perfformiad siomedig yng Nghaeredin.