Mae Brenhines Lloegr wedi cyfarfod gafr o’r enw Llywelyn sy’n fasgot newydd i’r gatrawd Gymreig Frenhinol.

Mewn seremoni ddechrau’r wythnos i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, fe fu Brenhines Lloegr ym marics Lucknow yn Swydd Wiltshire i weld yr afr.

Brenhines yw prif gyrnol y Gatrawd Gymreig a bu iddi gyflwyno cenhinen i bob un o’r cadetiaid a’r milwyr yn y baracs ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Wrth annerch y milwyr, dywedodd y Frenhines: “Rwyf wrth fy modd yn gallu bod yn bresennol i gyflwyno cenhinen i bob un o’r gatrawd, ac i gyfarfod y masgot newydd, Llywelyn.”

Cafodd y Gatrawd Gymreig Frenhinol ei sefydlu ar Fawrth 1, 2006 trwy uno dwy gatrawd – y Royal Welch a Chatrawd Frenhinol Cymru.