Shiromini Satkunarajah Llun: O wefan y ddeiseb i'w chadw yn y DU
Mae’r cyhoeddiad na fydd myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor yn cael ei hanfon yn ôl i Sri Lanka heddiw wedi’r cwbl, wedi cael ei groesawu.

Roedd Shiromini Satkunarajah, sy’n astudio peirianneg electronig ym Mhrifysgol Bangor, yn wynebu cael ei hanfon yn ôl i Sri Lanka gyda’i mam, Roshina, dri mis cyn iddi gwblhau ei chwrs gradd. Mae hi wedi byw yn y Deyrnas Unedig ers yn 12 oed.

Cafodd y gorchymyn i’w halltudio ei ddiddymu gan y Swyddfa Gartref ddydd Llun yn fuan ar ôl i’w Haelod Seneddol lleol Hywel Williams godi’r mater yn Nhŷ’r Cyffredin.

Cafodd Shiromini Satkunarajah a’i mam eu rhyddhau o ganolfan gadw Yarl’s Wood nos Lun.

Cafodd y ddwy eu harestio ddydd Iau diwethaf, ar ôl i’r awdurdodau wrthod eu cais am loches.

Dywedodd Hywel Williams, AS Plaid Cymru yn Arfon: “Dyma’r newyddion ry’n ni gyd wedi bod yn gobeithio amdano. Rwy’n hynod o falch bod y gorchymyn wedi cael ei ddiddymu a bod Shiromini a’i mam wedi cael eu rhyddhau o’r ganolfan gadw.

“Hoffwn ddiolch i bawb oedd wedi cefnogi’r ymgyrch i atal y gorchymyn.”

Ychwanegodd: “Wrth gwrs, nid yw’r ymgyrch i unioni’r sefyllfa annheg yma ar ben. Yn amlwg mae rhywbeth difrifol o’i le gyda’r system gyfredol ac mae’n fater rwy’n bwriadu ymchwilio iddo.”

‘Parhau i godi llais’

 

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Dirprwy Lywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru Carmen Smith:

“Rwy’ mor falch dros Shiromini a’i mam fod y Swyddfa Gartref wedi dod i’w coed o’r diwedd ac wedi tynnu’r allgludiad yn ôl.

“Ar ôl iddi gael cyfle i adfer wedi digwyddiadau’r diwrnodau diwethaf, rwy’n gobeithio bydd Shiromini’n gallu parhau â’i chwrs peirianneg electronig ym Mangor, a dymunaf bob hwyl iddi gyda’i harholiadau.

“Rwy’n ddiolchgar dros ben i bawb a ymgyrchodd wrth ein hochr dros ryddhad Shiromini a’i mam.”

Ychwanegodd: “Rwy’n parhau i fod yn gryf o’r farn y byddai allgludo Shiromini wedi bod yn beth hollol afiach i’w wneud. Mae’n hollbwysig ein bod yn gwerthfawrogi pobl, eu sgiliau, eu profiadau, a’u diwylliannau, pwy bynnag y bônt ac o ble bynnag y dawn nhw.

“Rhaid inni hefyd gofio gwerth addysg, a’r hyn y gall addysg beri. Gyda hynny mewn cof, rhaid dweud nad oes diwedd i’n gwaith ni eto. Rhaid inni barhau i godi llais dros gymdeithas oddefgar a chroesawgar, ble gall bawb fuddio o addysg gynhwysol, pa beth bynnag eu cefndir.”