Trudy Jones o'r Coed Duon Llun: Heddlu De Cymru
Mae disgwyl i deuluoedd y rhai a gafodd eu lladd ar draeth yn Nhiwnisia glywed casgliadau’r crwner heddiw wrth i’r cwest a barodd saith wythnos dynnu tua’i derfyn.

Roedd Trudy Jones, 51 oed, o’r Coed Duon yng Ngwent ymhlith y 38 o dwristiaid gafodd eu lladd yng Ngwesty Riu Imperial Marhaba yn Sousse ar 26 Mehefin 2015.

Roedd yn fam i bedwar o blant ac ar wyliau gyda ffrindiau pan gafodd ei saethu gan ddyn arfog, Seifeddine Rezgui Yacoubi.

Cwest – 7 wythnos

Mae disgwyl i’r Crwner Nicholas Loraine-Smith gyflwyno ei gasgliadau yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol yn Llundain heddiw.

Fe ddechreuodd y cwest ar Ionawr 16, gan glywed tystiolaeth mewn perthynas â phob un o’r 30 o dwristiaid o wledydd Prydain a gafodd eu lladd yn y gyflafan.

Yn ôl un cyfreithiwr ar ran y teuluoedd, Andrew Ritchie QC, fe ddylai’r crwner ystyried dyfarniad o “esgeulustod” yn ymwneud â chwmni teithio TUI, neu ddyfarniad “niwtral” gan ddadlau nad oedd digon wedi’i wneud i sicrhau diogelwch y teithwyr.