Gwenllian L Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin
Mae’r Mudiad Meithrin wedi cyhoeddi bod naw o swyddi rhan-amser newydd am gael eu creu yn dilyn y penderfyniad i ymestyn y cynllun ‘Cymraeg i Blant’.

Yn gynharach y mis hwn, fe wnaeth Llywodraeth Cymru dro pedol drwy gyhoeddi eu bod am fuddsoddi £225,000 ychwanegol yn y cynllun sy’n annog rhieni i siarad Cymraeg â’u plant.

Cafodd y cynllun ei sefydlu ym mis Ebrill 2016 i ddisodli’r cynllun Twf, ond roedd beirniadaeth am fod lleihad o £200,000 yn y gyllideb rhwng y ddau gynllun.

Er hyn, mae Mudiad Meithrin a Chymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r cyllid ychwanegol ers hynny.

Swyddogion Maes

Ar hyn o bryd, dim ond yn ardaloedd 14 o’r 22 cyngor sir y mae’r rhaglen newydd yn gweithredu.

Ond bydd y Mudiad Meithrin yn hysbysebu swyddi Swyddogion Maes rhan amser yn ardaloedd Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Torfaen/Mynwy, Ceredigion, Môn, a Gwynedd (3 swydd – Dwyfor, Arfon a Meirionnydd).

“Rydyn ni’n hynod o falch ein bod ni’n gallu cyflwyno ‘Cymraeg i Blant’ i bob rhan o Gymru ac yn edrych ymlaen at annog a chefnogi teuluoedd i ddefnyddio a throsglwyddo’r iaith ar yr aelwyd,” meddai Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Gwenllian L Davies.

“Byddwn ni’n parhau i gydweithio’n agos â gwahanol bartneriaid ar lawr gwlad sydd i gyd yn rhannu’r un weledigaeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050,” ychwanegodd.