Llun: PA
Bydd aelodau o’r Pwyllgor Materion Cymreig yn teithio i Frwsel heddiw i drafod datganoli ac effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru.

Bydd y pwyllgor yn cwrdd ag Aelodau’r Senedd Ewropeaidd ac yn ymweld â Swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mrwsel i drafod cynrychiolaeth Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd.

Gyda Chymru yn elwa o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd, bydd y pwyllgor yn trafod effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd  ar ardaloedd sydd yn elwa o’r grantiau yma.

Mae hefyd disgwyl i aelodau’r pwyllgor gwrdd â dirprwyaeth o’r Senedd Ffleminaidd a rhanbarth Walonia er mwyn trafod strwythur datganoledig Gwlad Belg.

Prif ffocws y trafodaethau yma fydd datganoli cyllidol a’r perthynas rhwng llywodraethau.