Mae rhieni merch bump oed a fu farw oriau ar ôl i’w meddyg teulu wrthod ei gweld am ei bod “ychydig funudau’n hwyr” am apwyntiad, wedi galw am ymchwiliad troseddol.

Bu farw Ellie-May Clark o Gasnewydd o bwl difrifol o asthma yn dilyn honiadau bod Dr Joanne Rowe wedi gwrthod ei gweld, yn ôl adroddiadau’r Mail on Sunday, er ei bod wedi cael rhybudd bod y ferch mewn risg o gael trawiad a allai bygwth ei bywyd.

Yn ol mam y ferch, Shanice, roedden nhw bedwar munud yn hwyr i’r apwyntiad.

Mae adroddiad swyddogol yn nodi eu bod nhw wyth munud yn hwyr ond mae Shanice Clark yn mynnu nad yw hyn yn gywir, gan ddweud ei bod wedi checio’r amser ar ei ffon symudol pan gyrhaeddodd.

Fe gawson nhw eu hanfon adref a chyngor i ddychwelyd yn y bore, ond cafodd Ellie-May Clark bwl difrifol yn ddiweddarach y noson honno, a bu farw’n fuan wedyn ym mis Ionawr, 2015.

Yn dilyn y digwyddiad cafodd Dr Joanne Rowe ei hatal o’i gwaith am chwe mis ar gyflog llawn yn dilyn gwrandawiad disgyblu preifat.

Mae Dr Joanne Rowe bellach wedi cael swydd arall mewn meddygfa arall yng Nghaerdydd.

Dangosodd ymchwiliad cyfrinachol y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) bod Dr Joanne Rowe wedi “methu ac ystyried hanes meddygol y plentyn.”

Mae rhieni Ellie-May Clark bellach yn galw am ymchwiliad troseddol.

Mae disgwyl i gwest gael ei gynnal ac mae’r crwner yn ymchwilio i’r farwolaeth.