Gwylnos i gofio'r AS Jo Cox - er ei bod wedi digwydd cyn y bleidlais Brexit, mae ei llofruddiaeth wedi dod yn symbol o droseddau casineb (Rwedland CCA4.0)
Roedd achosion o droseddau casineb wedi cynyddu ym mhob rhan o Gymru yn sgil y bleidlais tros Brexit, yn ôl ffigurau’r heddlu.

Yn ardal Dyfed-Powys yr oedd y cynnydd mwya’, gan fwy na dyblu yn y tri mis wedi’r refferendwm o gymharu â’r tri mis cynt.

Yn y tri mis rhwng Gorffennaf a Medi y llynedd, roedd tri chwartel heddluoedd Cymru a Lloegr wedi cofnodi eu lefel ucha’ erioed o droseddau casineb.

Troseddau casineb yng Nghymru

  • Roedd Heddlu Dyfed-Powys ymhlith y deg ardal waetha’ am droseddau o’r fath, gyda 35 o droseddau wedi eu cofnodi yn ystod y tri mis – cynnydd o 52%.
  • Yng Ngogledd Cymru, roedd y cynnydd yn 22%, gyda 56 o droseddau.
  • Yng Ngwent, roedd y cynnydd hefyd yn 22%, gyda 77 o droseddau.
  • Yn ardal Heddlu De Cymru yr oedd y nifer mwya’, ond y cynnydd lleia’ – 276 o droseddau, cynnydd o 10%.

Rhybudd o ragor

Mae Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi rhybuddio rhag cynnydd pellach wrth i’r broses Brexit barhau.

“Mae’n amlwg fod lleiafrif bychan o bobol wedi defnyddio’r bleidlais Brexit i gyfiawnhau hiliaeth a rhagfarn,” meddai David Isaac. “Allwn ni ddim caniatáu i enghreifftiau mor atgas o gasineb gael eu hesgusodi neu eu hailadrodd.”

Fe ddywedodd fod angen paratoi am gynnydd sylweddol eto unwaith y bydd trafodaethau Brexit yn dechrau.

Asiantaeth newyddion y PA oedd wedi crynhoi’r wybodaeth ac mae mudiad sy’n cynrychioli dioddefwyr yn awgrymu bod y cynnydd yn rhannol oherwydd fod mwy o bobol yn fodlon rhoi gwybod am droseddau casineb.

“Does dim lle i droseddau casineb yn ein cymdeithas ac mae un drosedd yn ormod,” meddai cyfarwyddwr Cefnogi Dioddefwyr, Lucy Hastings.

UKIP yn gwadu

Ar y llaw arall, mae arweinydd plaid UKIP, Paul Nutall – y brif blaid oedd tros yn llwyr Brexit – wedi wfftio’r ffigurau, er ei fod yn “cydymdeimlo” gyda dioddefwyr.

“Dw i’n credu bod llawer o hyn wedi ei chwyddo yn benodol er mwyn tanseilio Brexit,” meddai wrth bapur yr Independent.