Llun: S4C
Mae disgyblion ysgol ar draws Cymru yn mynd i gael y cyfle i hyrwyddo rhai o raglenni a gwasanaethau S4C wrth astudio ar gyfer y cymhwyster Bagloriaeth Cymru.

Daw hyn wedi i’r sianel gydweithio â bwrdd arholi CBAC i ddatblygu’r elfen o Her y Gymuned sy’n rhan o’r cymhwyster.

Bydd y disgyblion yn cynorthwyo tîm cyfathrebu S4C gan gynnal digwyddiadau yn eu cymunedau i hyrwyddo rhaglenni a gwasanaethau’r sianel gan gynnwys apiau, isdeitlau a’r deunydd ar-lein.

‘Denu pobl ifanc’ 

Y bwriad hefyd yw ceisio denu mwy o bobol i wylio’r sianel ac annog mwy i ddefnyddio’r Gymraeg.

“Mae S4C bob amser yn chwilio am ffyrdd creadigol o gael pobl ifanc i ymwneud â gwasanaethau a rhaglenni’r sianel,” meddai Gwyn Williams, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C.

“Trwy gydweithio gyda’n tîm cyfathrebu ni ac elwa ar arbenigedd addysgol CBAC, byddant yn meithrin sgiliau cyfathrebu amhrisiadwy ar gyfer yr oes ddigidol.”

Mae’r prosiect yn cael ei ddatblygu ar gyfer cymhwyster Cenedlaethol/Sylfaen ac Uwch Bagloriaeth Cymru.