William Williams Pantycelyn
A hithau’n dri chan mlynedd union heddiw ers diwrnod geni William Williams Pantycelyn, fe fydd gwasanaeth arbennig yn cael ei ddarlledu ar S4C nos yfory i nodi’r achlysur.

Fe ddaw Dechrau Canu Dechrau Canmol o Eglwys Llanfair-ar-y-bryn yn Llanymddyfri lle mae emynydd mwyaf toreithiog Cymru wedi’i gladdu.

Ar y rhaglen, fe fydd yr Athro Wyn James o Brifysgol Caerdydd yn trafod bywyd a gwaith William Williams, gan ei ddisgrifio fel y dylanwad mwyaf ar feddwl y Cymry dros y canrifoedd diwethaf.

“Yn sicr gallwch alw Pantycelyn yn dad yr emyn cynulleidfaol Cymraeg, gan mai ychydig iawn o ganu emynau oedd yn digwydd cyn y diwygiad Methodistaidd mewn gwirionedd,” meddai.

Mynegi teimladau

“Gyda’r diwygiad, roedd pobl yn profi tröedigaeth a theimladau mawr newydd gwahanol ac yn gallu mynegi’r teimladau a dyheadau trwy ganeuon.

“Fe ddaeth Williams yn doreithiog o oedran ifanc a pharhau i lunio emynau tan ei farw.

“Wrth feddwl  am ein holl feirdd, cantorion ac emynwyr poblogaidd, yng Nghymru bob wythnos mae pobl yn dal i ganu mwy o eiriau Wiliams Pantycelyn na neb arall.

“Yn fy nhyb i, mae’r emynau wedi hybu’r radicaliaeth fu’n nodweddu Cymru o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen. Felly mae’n gymeriad hynod ddylanwadol ar lawer cyfrif.”

Yn y rhaglen am 7.30 nos yfory fe fydd cyfle hefyd i glywed rhai o emynau mwyaf poblogaidd Pantycelyn o dan arweiniad Philip Watkins gyda Elaine Robbins ar yr organ.