Wayne David AS
Mae Wayne David, Aelod Seneddol Llafur Caerffili, wedi galw am newid y drefn o gosbi gyrwyr am yrru’n beryglus a gyrru’n ddiofal.

Fe gododd y mater yn ystod dadl ohirio – un sy’n gofyn am ymateb gan weinidog – yn San Steffan brynhawn dydd Mawrth.

Cyfeiriodd Wayne David at wrthdrawiad angheuol yn ardal Georgetown yn ei etholaeth ym mis Hydref 2015, pan gafodd dau ddyn ifanc – Rhys Jones, 18, a Ryan Gibbons, 20 – eu lladd. Bu farw trydydd dyn, Joe Daniels, 18, yn yr ysbyty rai wythnosau’n ddiweddarach.

Roedd y tri yn teithio yn y car – fe oroesodd y gyrrwr ac un teithiwr arall.

Cafodd y gyrrwr ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, a’i ryddhau ar fechnïaeth, ac fe gafodd yr hawl i yrru yn y cyfamser. Eglurodd Wayne David fod y gyfraith wedi cael ei newid er mwyn atal gyrwyr rhag gyrru dan y fath amgylchiadau.

Achos llys

Cyfaddefodd y gyrrwr, John Spencer Graham, 21, iddo achosi marwolaeth tri o bobol drwy yrru’n ddiofal.

Dywedodd y barnwr Daniel Williams nad oedd digon o dystiolaeth i’w gael yn euog o yrru’n beryglus.

Ond fe gafodd ei garcharu am ddeg mis am yrru’n ddiofal.

‘Syfrdanu’

Yn ystod y ddadl brynhawn ddoe, dywedodd Wayne David ei fod e “wedi syfrdanu” fod y gosb a gafodd y tri mor “drugarog”.

Ond fe eglurodd fod y gosb “yn unol â chanllawiau dedfrydu” a’i bod yn “adlewyrchu ple’r diffynnydd”.

Ychwanegodd: “Ond o ystyried pa mor ddifrifol oedd y drosedd, cafodd teuluoedd y tri dyn ifanc a gollodd eu bywydau sioc ac fe gawson nhw eu syfrdanu gan ba mor drugarog oedd y ddedfryd.”

Dywedodd y byddai unrhyw un sy’n gwybod am yr hanes yn “ffieiddio” ynghylch y ddedfryd.

Cafodd y gyrrwr ei ryddhau ar ôl pum mis.

Ffaeleddau

Cyfeiriodd Wayne David at nifer o ffeithiau nad oedd yn hysbys adeg yr achos llys, gan gynnwys y ffaith fod y gyrrwr wedi cael ei rybuddio rai misoedd cyn y gwrthdrawiad am drosedd yrru, ond nad oedd y rhybudd wedi cael ei gofnodi’n gywir gan Heddlu Gwent.