Dosbarth o blant (Llun: PA)
Mae mudiad Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Weinidog y Gymraeg i ymchwilio ar fyrder i “ddiffyg ymrwymiad” rhai awdurdodau lleol i wella a datblygu ysgolion Cymraeg o fewn eu siroedd.

Daw’r alwad yn sgil ymateb a gafwyd gan Swyddfa’r Ysgrifennydd Addysg i ymholiad ynglŷn â sut y mae cyllid i ysgolion Cymraeg fesul sir.

Yn ôl Swyddfa’r Ysgrifennydd Addysg, mae chwech o siroedd – sef Blaenau Gwent, Fflint, Merthyr Tudful, Mynwy, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam – i gyd wedi dewis dyrannu 5% neu lai o’r cyllid ar ysgolion Cymraeg.

Faint?

Trwy Gymru gyfan, gwariwyd £1,497,726,000 ar ysgolion, gyda £441,405,602 (29.5%) ar ysgolion Cymraeg.

Gyda’i gilydd gwariodd y chwe sir £286,750,000 – mwy na chwarter biliwn o bunnoedd – ar fuddsoddi mewn ysgolion, ond dim ond £2,726,636 ar ysgolion Gymraeg.

Gwariodd Rhondda Cynon Taf £159,291,853 ar ysgolion Saesneg a dim ond £798,147 (0.5%) ar ysgolion Cymraeg.

Ni wariodd Blaenau Gwent, Fflint a Merthyr Tudful ddim ar ysgolion Cymraeg ond gwarion nhw £103,450,000 ar ysgolion Saesneg.

Yn Fflint roedd y gwariant yn £64,200,000, a dim ar ysgolion Cymraeg. Ym Merthyr Tudful, £19,000,000 a dim ar ysgolion Cymraeg. Ym Mynwy, £93,400,00 gyda £1,000,000 (1%) ar ysgolion Cymraeg. Yn Wrecsam roedd y gwariant ar ysgolion yn £22,300,000, a £1,018,489 (5%) ar addysg Gymraeg.

“Truenus”

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol: “Mae’r ffigyrau hyn yn adlewyrchiad truenus o’r diffyg ymrwymiad sy’n bodoli mewn rhai ardaloedd tuag at ffyniant y Gymraeg.

“O’r cychwyn, rydym ni fel mudiad wedi bod yn feirniadol o Gynlluniau’r Gymraeg mewn Addysg, a hynny o safbwynt ansawdd rhai o’r Cynlluniau unigol, a’r awydd gwleidyddol i arwain ar eu datblygiad.

“Gyda Strategaeth y Gymraeg yn anelu at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae pawb yn gytûn na ellir gobeithio cyrraedd y nod heb ymrwymiad cadarn i ddatblygu addysg Gymraeg,” meddai wedyn.

“Mae’r sefyllfa bresennol yn golygu fod yr holl waith dan fygythiad enbyd o’r cychwyn.”