Manon Lois Williams, Mared Fflur Davies, ac Alwen Morris (Llun: Yr Urdd)
Mae pedwar person ifanc o Geredigion wedi eu dewis ar gyfer taith yr Urdd i Batagonia.

Bydd Manon Lois Williams a Twm Ebbsworth, Mared Fflur Davies, ac Alwen Morris yn rhan o grŵp o 25 o bobl ifanc Cymru fydd yn teithio i Batagonia fis Hydref.

Tra ym Mhatagonia bydd y grŵp yn treulio pythefnos yn dilyn rhaglen o weithgareddau arbennig fydd mwy na thebyg yn cynnwys  cynnal cyngherddau, cymanfa ganu a noson lawen.

Y daith fydd 10fed taith yr Urdd a Mentrau Iaith Cymru i’r Wladfa sydd wedi ei chynnal yn flynyddol ers 2008 ac wedi gweld 200 o bobol ifanc yn teithio yno.

Mae’r daith yn costio £2,400 y person a bydd yn rhaid i’r pedwar chwilio am nawdd a chynnal llu o weithgareddau dros y misoedd nesaf er mwyn cyrraedd eu targed.

“Llu o geisiadau gwych”

“Cawsom lu o geisiadau gwych o bob rhan o Gymru unwaith eto eleni, ac roedd yn anodd dewis y 25 lwcus,” medd Lois Hedd, Swyddog Datblygu Dinbych ac un o arweinyddion y daith i Batagonia yn 2017.

“Mae’r her i hel yr holl arian sydd ei angen i fynd ar y daith bellach wedi dechrau, ac rydw i’n edrych ymlaen at weld creadigrwydd y bobl ifanc wrth iddynt fynd ati.”