Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru heddiw i leoli pencadlys Awdurdod Cyllid Cymru yn Nhrefforest, wedi cythruddo un o gynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd oedd am weld y corff yn dod i’r gogledd.

Mae’r Awdurdod Cyllid yn gorff newydd sy’n cael ei sefydlu i gasglu trethi newydd fydd yn cael eu datganoli i Gymru ym mis Ebrill 2018.

Disgwylir i’r corff gyflogi 40 o swyddogion i gasglu £1 biliwn mewn trethi dros y tair blynedd nesaf, er mwyn ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae “lleoli’r Awdurdod yn Nhrefforest yn symbol o’n hymrwymiad i wneud y Cymoedd yn lle llewyrchus. Byddwn yn adolygu’r lleoliad unwaith y bydd yr Awdurdod wedi’i sefydlu ac yn gweithredu ymhen deunaw mis”.

Lloerig

Roedd Cyngor Tref Porthmadog wedi gofyn i Lywodraeth Cymru leoli’r Awdurdod Cyllid ym Mhorthmadog, gan ddadlau bod arbenigedd yn lleol eisoes gan fod yno swyddfa dreth yn cynnig gwasanaeth yn Gymraeg.

Ac mae aelod o’r Cyngor Tref wedi ymateb yn chwyrn i’r newyddion bod y corff newydd yn mynd i Drefforest.

“Mae hyn yn siomedig ofnadwy,” meddai Dr Simon Brooks, “oherwydd rydan ni yn gwybod bod yr Awdurdod newydd yma yn cael ei greu gyda thua 40 o swyddi sector gyhoeddus da.

“Rydan ni wedi bod eisiau ei gael o ym Mhorthmadog gan fod ganddo ni swyddfa dreth yma yn barod. A gyda’r swyddi newydd yma fe fydden ni wedi medru cael rhyw fath o tax hub yn lleol.

“Dyna sydd ei angen – creu arbenigedd mewn diwydiant yng nghefn gwlad, i bobol fedru cael gyrfa.”

‘Popeth yn mynd i Gaerdydd’

Bydd pencadlys yr Awdurdod Cyllid yn Nhrefforest, sydd rhyw 10 milltir o’r brifddinas.

Upper Cardiff, dyna beth faswn i’n galw Trefforest,” meddai Dr Simon Brooks.

“Dyma ni, unwaith eto, gwario pres cyhoeddus ar greu swyddi cyhoeddus da – ni’r trethdalwyr yn talu amdano – ac unwaith eto mae’r Llywodraeth wedi ei osod yng nghoridor yr M4.

“Bob tro mae rhywbeth newydd yn cael ei greu… mae’r Llywodraeth yn ei roi o rywle ar hyd yr M4… a’r rheswm maen nhw yn gwneud hynny ydy ei bod hi yn hawdd i bobol o Gaerdydd ddreifio yn ôl ag ymlaen i’r llefydd yma.

“Os ydach chi yn byw yng nghanolbarth Cymru, os ydach chi yn byw yn y gogledd, rydach chi jesd yn cael eich anghofio…

“Y cwbl rydan ni wedi ei gael gan ddatganoli, mewn ugain mlynedd, ydy gweld llu o bobol ifanc yn gadael y bröydd Cymraeg ac yn symud i Gaerdydd.

“Tydi’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd ddim wedi codi bys bach i greu swyddi mewn llefydd fel Gwynedd a Sir Fôn, a dyna yn y bôn pam bod ein cymunedau Cymraeg ni yn marw a darfod ac yn mynd allan o hanes. Achos mae gan y Llywodraeth bolisi pwrpasol o adleoli pob dim i Gaerdydd.”

‘Swyddfa yn y gogledd hefyd’

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru:

“Er ei fod yn gorff bach, rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru allu diwallu anghenion rhanddeiliaid a chwsmeriaid ledled Cymru.

“Bydd staff yr Awdurdod yn gweithio ledled Cymru gyda threthdalwyr, rhanddeiliaid ac asiantwyr eraill.  Bydd gan yr Awdurdod swyddfa yn y Gogledd hefyd.

“Penderfynwyd ar leoliad y brif swyddfa ar ôl ystyried nifer fawr o ffactorau, gan gynnwys y sgiliau arbenigol iawn sydd eu hangen o fewn yr Awdurdod.”