April Jones Llun: Heddlu Dyfed Powys
Mae deiseb sy’n galw am ddedfrydau llymach i droseddwyr rhyw wedi llwyddo i gael mwy na 110,000 o lofnodion, sy’n golygu y bydd Senedd San Steffan yn ystyried cynnal dadl arno.

Cafodd y ddeiseb ei sefydlu gan deulu’r ferch 5 oed o Fachynlleth, April Jones, a gafodd ei chipio a’i lladd yn 2012.

Mae’r ddeiseb yn galw am sicrhau bod troseddwyr rhyw yn parhau ar y gofrestr am eu hoes beth bynnag fo’r drosedd.

Mae hefyd yn galw ar ddarparwyr gwasanaeth a pheiriannau chwilio i gael eu plismona’n well o ran lluniau o gam-drin plant a dedfrydau llymach i’r rheiny sy’n cael eu dal â lluniau o’r fath yn eu meddiant.

Lluniau anweddus

Cafodd Mark Bridger ei garcharu am oes am gipio a llofruddio April Jones, ac fe ddaeth hi i’r amlwg fod ganddo fwy na 500 o luniau anweddus o blant ar ei gyfrifiadur.

Fe fydd y Senedd yn ystyried cynnal dadl ar y mater yn awr, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymateb gan ddweud fod ganddynt “rai o’r pwerau llymach yn y byd i ddelio â throseddwyr rhyw ac mae’r rheiny sy’n parhau i fod yn risg yn parhau’n amodol ar hysbysiad am weddill eu bywyd.”