Mae dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty yn dilyn digwyddiad difrifol yn ardal Llanrhymni yng Nghaerdydd heddiw.
Roedd Heddlu De Cymru a’r gwasanaethau brys wedi ymateb i ddigwyddiad ar Heol Clevedon yn ardal Llanrhymni am 12.20yp prynhawn dydd Llun, 30 Ionawr.
Mae’r heddlu’n credu bod y dyn, sy’n gweithio i gwmni Western Power, wedi bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar y safle pan gafodd ei drydanu.
Yn dilyn y digwyddiad mae Heol Clevedon wedi cael ei chau ac mae’r heddlu yn cynghori modurwyr i osgoi’r ardal ar hyn o bryd.
“Mae ymchwiliad mewnol wedi cychwyn ac mi fyddwn ni yn gweithio’n agos gyda’r heddlu,” dywedodd llefarydd ar ran Western Power.
Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch hefyd wedi cael gwybod am y digwyddiad.