Mae’r Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi’r mudiadau yn y trydydd sector yng Nghymru fydd yn cael cyfran o dros hanner miliwn o bunnoedd i hybu sgiliau yn y sector wirfoddol.

Mae’r rhaglen Sgiliau Trydydd Sector yn un o dri phrosiect sy’n rhannu £588,776, gyda’r bwriad o helpu mudiadau ac elusennau i ffynnu.

Bydd elusen y Sported Foundation yn cael £300,228 i fentora arweinwyr grŵp a gwirfoddolwyr mewn 120 o grwpiau cymunedol bach, er mwyn cyflwyno chwaraeon fel ffordd o wella bywydau pobol ifanc ddifreintiedig.

Mentoriaid ac ymddiriedolwyr o’r sector preifat

Ac mae Canolfan Datblygu a Hyfforddi Cydweithredol Cymru wedi cael £135,552 i sicrhau bod gan fudiadau yn y trydydd sector yn ne-ddwyrain Cymru fodelau busnes cynaliadwy.

Y bwriad yw cysylltu mudiadau â mentoriaid ac ymddiriedolwyr o’r sector preifat drwy “broses ddatblygu ddigidol.”

“Mae potensial enfawr i wneud gwell defnydd o dechnolegau digidol er mwyn cyflawni budd cymdeithasol,” meddai Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru.

“Mae technoleg ddigidol eisoes wedi trawsnewid llawer o ddiwydiannau a bydd yn gwneud yr un peth yn y sector elusennol.”

Mae’r rhaglen yn rhoi grantiau rhwng 10,000 a £500,000 i fudiadau er mwyn eu helpu i “gynllunio at y dyfodol” a dod dros “hinsawdd economaidd anodd”.