Mae Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi y bydd yn cau saith canolfan waith a dwy swyddfa yng Nghymru.

Y bwriad yw peidio diswyddo neb a symud pobol i swyddfeydd cyfagos – ond mae hynny’n dibynnu ar drafodaethau unigol â’r staff i gytuno ar eu hadleoli.

Ond mae’r Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Thomas, wedi mynegi pryder dros gau’r ganolfan yn Llanelli, gan ddweud bod 146 o swyddi yn y fantol.

“Rwyf wedi gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi Ken Skates i gyflwyno datganiad ynglŷn â’r 146 swydd sydd o dan fygythiad yn Llanelli,” meddai.

“Mi fydd toriadau creulon y Ceidwadwyr yn cael effaith negyddol dros ben ar Lanelli. Tra bod Cyngor Sir Gaerfyrddin, dan arweiniad Plaid Cymru, yn ceisio annog mwy o weithgarwch a denu mwy o bobl i dref Llanelli, mae’r Ceidwadwyr yn Llundain yn ceisio sicrhau’r gwrthwyneb.”

‘Uno nid diswyddo’

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau mai’r bwriad yw uno’r swyddfa yn Llanelli gyda’r un yn Abertawe.

“Ein bwriad yw peidio diswyddo. Mae’r cynlluniau hyn wedi’u creu er mwyn cadw sgiliau a phrofiad gweithwyr ledled y wlad,” meddai llefarydd mewn datganiad.

“Bydd trafodaethau unigol yn cael eu cynnal gyda staff i gytuno ar eu hadleoli.”

Bydd 83 o staff yn cael eu heffeithio yn swyddfa Porth yn y Rhondda, gyda’r bwriad i’w symud i’r brif swyddfa agosaf yng Nghaerffili.

Dyma restr o’r canolfannau gwaith bydd yn cau:

Llandrindod – symud i adeilad y cyngor sir

Aberpennar – symud i Aberdâr

Y Drenewydd – symud i adeilad y cyngor sir

Y Pîl – symud i Borthcawl

Tredegar – symud i Lyn Ebwy

Ystradgynlais – symud i adeilad y cyngor sir

Y Coed Duon – symud i swyddfa leol newydd

Mwy o bobol ar-lein

Yn ôl yr Adran Gwaith a Phensiynau, erbyn hyn mae wyth o bob deg cais am Lwfans Ceisio Gwaith a 99.6% o geisiadau am Gredyd Cynhwysol yn cael eu gwneud ar-lein.

Mae hynny’n golygu bod 20% o’i swyddfeydd ddim yn cael eu defnyddio digon, yn ôl yr Adran.

“Mae’r ffordd mae’r byd yn gweithio wedi newid yn gyflym yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf ac mae angen i’r wladwriaeth les fynd cyn gynted,” meddai’r Gweinidog dros Gyflogaeth, Damian Hinds.

“Wrth i fwy o bobol dderbyn eu budd-daliadau dros y we, mae llawer o’n hadeiladau yn cael eu tanddefnyddio. Rydym yn canolbwyntio ein hadnoddau ar yr hyn ry’n ni’n gwybod sy’n helpu pobol orau i gael gwaith.

“Bydd y newidiadau rydym wedi’u cyhoeddi heddiw yn helpu i sicrhau ein bod yn delifro ein gwasanaethau i adlewyrchu realiti’r system les heddiw.”