Mae Aelod Cynulliad wedi cyhuddo banc HSBC o weithredu’n “ddidrugaredd” wrth gau naw o ganghennau yng Nghymru.

Yn ol Joyce Watson, aelod Llafur tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, fe fydd cau canghennau Maesteg, Rhydaman, Abergwaun, Arberth, Caerdydd, Caergybi, Llanrwst, Treffynnon a Threfyclo eleni, yn “niweidio y stryd fawr” ac yn “cosbi pobol sydd heb ryngrwyd neu fodd o drafnidiaeth”.

Fe gyhoeddodd HSBC – sydd wedi bod yn defnyddio’r slogan “banc lleol y byd” – ddydd Mawrth y bydd yn cau 62 o ganghennau ledled gwledydd Prydain yn ystod 2017, a bod y naw cangen Gymreig yn rhan o’r symudiad hwn.

“Yn dilyn yr argyfwng bancio a’r holl arian gafodd ei roi i’r banciau, fe fyddech wedi tybio y byddai banciau mawr yn teimlo bod mwy o gyfrifoldeb arnyn nhw i gynnig gwasanaeth cyhoeddus ac i wasanaethu eu cwsmeriaid,” meddai Joyce Watson.