Trudy Jones o'r Coed Duon Llun: Heddlu De Cymru
Mae cwest i farwolaeth 30 o dwristiaid o wledydd Prydain, a gafodd eu lladd mewn ymosodiad brawychol yn Tiwnisia, wedi clywed tystiolaeth yn ymwneud a marwolaeth dynes o Gymru.
Roedd Trudy Jones, 51, o’r Coed Duon yng Ngwent ar wyliau gyda ffrindiau pan gafodd ei saethu’n farw gan ddyn arfog, Seifeddine Rezgui Yacoubi.
Roedd y fam i bedwar o blant ymhlith 38 o dwristiaid gafodd eu lladd yng Ngwesty Riu Imperial Marhaba yn Sousse ar 26 Mehefin 2015.
‘Anhrefn’
Dywedodd un o’i ffrindiau Carol Anne Powell wrth y cwest heddiw ei bod hi wedi bod yn torheulo ger y pwll nofio tra bod Trudy Jones wedi mynd i’r traeth. Dywedodd iddi glywed sŵn ffrwydrad yn dod o gyfeiriad y traeth a bod pobl wedi dechrau rhedeg tuag ati yn gweiddi “cer, cer.”
Dechreuodd hi redeg tuag at y gwesty ond oherwydd yr “anrhefn” fe benderfynodd gymryd arni ei bod wedi marw ym maes parcio’r gwesty.
Dywedodd bod dyn wedi ei thaflu dros ei ysgwydd a’i chludo i westy gerllaw.
“Mi fyswn i’n hoffi gwybod pwy oedd o oherwydd roedd wedi fy achub,” meddai.
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal yn Tiwnisia ac yn y Deyrnas Unedig a ddaeth i’r casgliad bod Trudy Jones wedi marw o ganlyniad i gael ei saethu unwaith yn ei gwddf a’i brest.
‘Ddim yn ymwybodol o’r risg’
Dywedodd Mark Hornby wrth y cwest, a oedd ar wyliau gyda Carol Anne Powell, nad oedd wedi edrych ar safle’r Swyddfa Dramor i weld beth oedd y bygythiad posib o ymosodiadau brawychol yn Tiwnisia gan nad oedd “yn ymwybodol ohono.”
“Nid oedd Thomson (y cwmni gwyliau) wedi tynnu ein sylw at y risg o frawychiaeth,” meddai.
“Roeddwn i wedi meddwl y bydden ni’n ddiogel ar ein gwyliau, yn enwedig gan ein bod ni mewn gwesty pum seren.”
Mae disgwyl i’r cwest yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol yn Llundain glywed tystiolaeth mewn perthynas â phob un o’r 30 o dwristiaid o wledydd Prydain a gafodd eu lladd yn y gyflafan.
Heddiw, mae disgwyl i’r cwest hefyd glywed tystiolaeth am farwolaeth John Stocker, 74, a’i wraig Janet, 63, o Morden, yn Surrey.
Fe ddechreuodd y cwest ar 16 Ionawr ac mae disgwyl iddo barhau am saith wythnos.