Yr Wyddfa
Mae Swyddog Undeb Amaethwyr Cymru wedi galw ar Awdurdod Parc Eryri i ystyried codi tâl ar gerddwyr i ddefnyddio’r Wyddfa er mwyn medru ariannu gwaith cynnal a chadw ar ei lwybrau.

Dywedodd Gwynedd Watkins wrth Golwg360: “Y broblem yw bod gymaint o waith cynnal a chadw i’w wneud ar y llwybrau yn barod.

“Aeth 364,000 o bobol lan y Wyddfa llynedd, oes wnewch chi godi ffi o £10 i bob un dyna £3.6 miliwn o incwm er mwyn sicrhau cynnal a chadw priodol ar y llwybrau sydd yna.

“Dyw e ddim yn syniad newydd, mae’n rhywbeth sy’n digwydd eisoes mewn gwledydd eraill ac mae rhai, dw i’n deall, yn codi treth twristiaid. Maen nhw’n talu i fynd mewn i Barc Yellowstone, a nes i dalu £120 i fynd ar hyd llwybr yr Inca ym Mheriw,” meddai.

“Gweithgaredd lleiafrif llethol”

Roedd Gwynedd Watkins hefyd yn bryderus ynglŷn â ffynhonnell ariannu’r cynnal a chadw: “Ry’n ni’n gwybod bod yr awdurdodau lleol yn cael llai o bres bob blwyddyn, mae eu cyllidebau nhw yn cael eu gwasgu, felly mater o ddod o hyd i ryw ffynhonnell arall o arian yw e.”

Cyfeiriodd hefyd at gerdded fel “gweithgaredd y lleiafrif llethol o’r boblogaeth” sydd yn cael ei ariannu gan y trethdalwr.

Yn bresennol mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu at waith cynnal a chadw’r parc a dywedodd bod eu  “gwaith nhw’n hanfodol bwysig ac mae eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi.”

Mae Golwg360 wedi gofyn i Awdurdod Parc Eryri am ymateb.