Fe fydd pobol sy’n mynd i Gaerfyrddin i siopa ar Ddydd Santes Dwynwen yn cael parcio yn rhad ac am ddim yn y dre’.

Mae’n rhan o gynllun Cyngor Sir Gâr i ddenu mwy o bobol i’r dref ar ddiwrnod Cymreig y cariadon (Ionawr 25) ac ar Ddydd San Ffolant (Chwefror 14).

Daeth y cyhoeddiad yn dilyn cais gan Fforwm Tref Caerfyrddin i geisio denu mwy o bobol i’r dref ar adeg dawel ar ôl y Nadolig.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, sy’n gyfrifol am yr Amgylchedd ar Gyngor Sir Gâr: “Gobeithio y bydd pobol yn manteisio ar y cyfle hwn i barcio’n rhad ac am ddim yng Nghaerfyrddin ar Ddydd Santes Dwynwen ac ar Ddydd San Ffolant.

“Gallan nhw ddangos eu hochr ramantaidd a sbwylio’u hanwyliaid gyda thaith i siopa, bwyta allan neu hyd yn oed gyda thaith i’r sinema.”

Mae arweinwyr busnes y dref wedi croesawu’r cynllun.

Fe fydd siopwyr hefyd yn cael parcio’n rhad ac am ddim ar Chwefror 25, sef dyddiad dechrau Wythnos Gymraeg Caerfyrddin, a Mawrth 25 ar gyfer Gŵyl Myrddin.