Mae nifer o fudiadau ac unigolion wedi galw ar Gyngor Powys i wella darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yng ngogledd y Sir yn sgil beirniadaeth gan y gantores Sian James.

Wrth siarad ar raglen Dei Tomos neithiwr mi wnaeth Sian James leisio ei phryder dros ddyfodol yr iaith yng ngogledd y sir gan gyfeirio yn benodol at y ffaith nad oes ysgol uwchradd Gymraeg yno.

Er bod ysgol gynradd benodedig Gymraeg yn Sir Drefaldwyn – Ysgol Dafydd Llwyd – nid oes ysgol uwchradd benodedig Gymraeg gydag Ysgol Caereinion ond yn cynnig addysg dwy ffrwd.

‘Cyfrifoldeb y cyngor sir’

Wrth siarad gyda Golwg360 mae Dr Gwenllïan Lansdown Davies, sydd yn byw yn Llanerfyl ac yn Brif Weithredwr Mudiad Ysgolion Meithrin, wedi cyfleu ei chefnogaeth i sylwadau Sian James.

“Dwi’n cytuno cant y cant, mae angen i ni gael ysgol benodedig cyfrwng Cymraeg i ateb y galw am addysg Gymraeg yn Sir Drefaldwyn a dweud y gwir mae angen mwy nag un ysgol  benodedig Gymraeg ac mae hwnnw’n gyfrifoldeb sy’n perthyn i’r cyngor sir. Mae’n dipyn o gywilydd mewn ffordd mai hon yw’r unig sir yng Nghymru sydd heb ysgol uwchradd benodedig Gymraeg.”

“Mae ’na lygedyn o obaith yn y ffaith bod y Cyngor Sir yn cynllunio i agor ysgol gynradd Gymraeg yn y Trallwng  a fydd, dwi’n gobeithio, yn gwneud yr un fath o beth mae Dafydd Llwyd wedi gwneud yn y Drenewydd o safbwynt addysg Gymraeg ond mae rhaid i’r Cyngor Sir gymryd y galw am addysg Gymraeg o ddifri neu golli tir fyddwn ni o ran dyfodol yr iaith.”

‘Darpariaeth bresennol yn annigonol’

Mae Dyfodol i’r Iaith hefyd wedi lleisio pryder gan ddatgan: “mae Ysgol Llanfair Caereinion wedi datblygu ffrwd Gymraeg hynod lwyddiannus … ond dewis eilradd yw ffrydiau Cymraeg mewn ysgolion Saesneg.”

Meddai Cadeirydd Rhanbarth Powys Cymdeithas yr Iaith, Nia Llywelyn: “Rydym yn dal i aros i weld y Cyngor yn rhoi cynllun busnes ar waith ar gyfer darpariaeth addysg Gymraeg yng ngogledd y sir.

“Yn ogystal â sefydlu ysgolion uwchradd Cymraeg cyn gynted â phosib, mae angen camau eraill fel gwella darpariaeth ysgolion cynradd a throchi ar gyfer hwyrddyfodiaid … felly mae angen gwell arweiniad.”

‘Llunio achos busnes’

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Powys:  “ym mis Ionawr 2015, cytunodd Cabinet Cyngor Sir Powys i ddechrau rhaglen Ad-drefnu Ysgolion Uwchradd, i drawsnewid y sector uwchradd ac ôl-16 ar draws y sir.

“Un o amcanion y rhaglen yw i aildrefnu addysg cyfrwng Cymraeg, ‘gyda’r nod o sefydlu o leiaf un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y sir.’ Paratowyd astudiaeth dichonolrwydd cychwynnol ar sefydlu ysgol neu ysgolion categori 2A yng Ngogledd Powys, a gafodd ei ystyried gan y Cabinet ym mis Medi 2015.

“Penderfynodd y Cabinet ‘ei fod yn ddymunol i sefydlu ysgol neu ysgolion uwchradd dwyieithog categori 2A yng Ngogledd Powys’, ac ‘i lunio achos busnes yn unol â hynny’. Mae gwaith ar lunio’r achos busnes hwn yn parhau, ac fe gaiff ei ystyried gan y Cabinet maes o law.”

Ychwanegodd y  cyngor ei fod yn ymgynghori ar ei Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) drafft ar gyfer 2017-20 ar hyn o bryd.

“Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd yr awdurdod yn datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ystod y cyfnod hwn. Un o’r amcanion yn y CSGA drafft yw ‘parhau â’r gwaith i sefydlu un neu fwy o ysgolion categori 2A yng ngogledd Powys’.”

Mae’r cynllun drafft a manylion sut i ymateb i’r ymgynghoriad ar gael ar wefan y cyngor. Bydd yr ymgynghoriad yn gorfen ar y 25 Ionawr.