Sian James (Llun o'i sianel YouTube - www.youtube.com/channel/UCybRTMP4qHavIrQP-CUBPiA)
Mae cantores werin wedi rhybuddio bod peryg i’r Gymraeg golli’r dydd yng ngogledd Powys.
Fe ddywedodd Sian James fod angen i bobol yr hen Sir Drefaldwyn ddeffro i’r “newidiadau mawr” sy’n digwydd o ran y Gymraeg yn y cylch ar hyn o bryd.
Mewn sgwrs radio ar Raglen Dei Tomos neithiwr, roedd y gantores o ardal Llanerfyl – rhan o ardal yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy flynedd yn ôl – yn poeni’n arbennig am ddiffyg ysgol Gymraeg yn yr ardal.
‘Angen deffro’
“Ar hyn o bryd, ydan ni’n gweld newid mawr,” meddai Sian James. “I fi, mae’r ffaith bod gan Gogledd Powys yr un ysgol benodedig Gymraeg yn dangos ein bod ni … dipyn bach yn styc ac ydan ni angen deffro i’r newidiadau mawr sy’n digwydd yn ein hardal ni yn ieithyddol.
“Dw i’n gwybod ei bod hi’n bwnc llosg ond dw i jyst yn ofni bod pethau’n mynd i gael y gorau ohonon ni fel Cymry Cymraeg yma.”
- Yng Nghyfrifiad 2001, roedd pump o wardiau etholiadol yng ngogledd Powys lle’r oedd mwy na 50% o’r bobol yn siarad Cymraeg.
- Erbyn Cyfrifiad 2011, dim ond dwy ward oedd ar ôl.