Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod criw difa bomiau wedi cael gwared ar ddyfais o dafarn yn ardal Abertawe.

Fe gaeodd yr heddlu ran o ffordd ym Mhontardawe ddydd Mercher, wedi iddyn nhw dderbyn galwad ffôn gan aelod o’r cyhoedd. Y gred yw mai dyfais ffrwydrol o adeg y Rhyfel Byd Cyntaf gafodd ei darganfod ar y safle.

Bu’n rhaid i bobol leol adael eu cartrefi, ac fe fu Gwaredwyr Ordnans Ffrwydrol yno er mwyn sicrhau bod y ddyfais yn ddiogel.

Mae’r heddlu wedi diolch i’r cyhoedd am eu hamynedd.